Gweithiwr Cefnogi
- Organization
- Posted
- Closing date
Teitl y Swydd: Gweithiwr Cefnogi
Lleoliad y Swydd: Gogledd Powys
Cyflog: £18,972 yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am – 5pm)
Math o Gontract: Tymor penodol tan fis Mawrth 2024
Ydych chi erioed wedi ystyried beth sy’n digwydd i gleifion wedi iddynt adael ward ysbyty? Mae rhai pobl yn iawn ac yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw. Gall eraill elwa o ychydig mwy o amser a chefnogaeth. Gall y gefnogaeth hon gynnwys casglu presgripsiynau, gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw fwyd yn y tŷ, tasgau tŷ ysgafn a gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod â phwy i gysylltu os bydd angen mwy o help – y gefnogaeth gyffredinol y byddech chi eisiau i’ch ffrindiau a’ch teulu ei brofi.
Dyna hanfod y swydd hon – helpu cleifion sydd wedi’u rhyddhau i reoli a lleihau’r risg o angen ymweliad arall â’r ysbyty.
Bydd eich treulio eich dyddiau yn siarad gydag a chefnogi cleifion a staff meddygol er mwyn sicrhau bod yr ysbyty’n rhedeg yn hwylus a gweld cleifion mor gyflym â phosib.
Bydd eich profiad yn caniatáu i bobl sydd wedi bod yn yr ysbyty gael eu hannibyniaeth. Bydd y bobl rydych chi’n eu cefnogi yn dod o bob math o gefndiroedd. Efallai y byddwch chi’n treulio eich bore’n cefnogi rhywun â Dementia i setlo yn ôl adref ar ôl aros yn yr ysbyty, ac yna yn y prynhawn efallai byddwch yn mynd â rhywun ag awtistiaeth i apwyntiad meddyg i ddilyn i fyny. Efallai byddwch yn gorffen eich diwrnod yn gollwng rhywfaint o fwydydd i rywun sy’n methu gadael y tŷ ar ôl llawdriniaeth. Bydd y swydd hon yn cael effaith enfawr ar ddefnyddwyr ein gwasanaeth.
Mae’n bwysig gwybod – nid yw’r rôl hol yn cynnwys gofal personol. Ni fyddwch yn gyfrifol am ymolchi neu lanhau ein cleientiaid.
Bydd diwrnod ym mywyd Gweithiwr Cefnogi yn cynnwys:
Siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am y cymorth sydd ei angen ar gleifion.
Gyrru i leoliadau gwahanol gan gynnwys ysbyty, meddygfeydd, fferyllfeydd, siopau a chartrefi cleifion.
Cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth.
Sicrhau bod ein systemau wedi’u diweddaru er mwyn gallu olrhain pa gymorth sydd wedi’i gynnig i gleifion.
Helpu i asesu anghenion defnyddwyr ein gwasanaeth yn y dyfodol a helpu i ddatblygu cynlluniau cefnogi.
I fod yn Weithiwr Cefnogi llwyddiannus, bydd angen arnoch chi:
Trwydded yrru a mynediad at eich cerbyd eich hun.
Natur ofalgar, empathetig er mwyn gallu cynnig y cymorth gorau.
Sgiliau TG da gan ein bod ni’n defnyddio meddalwedd i sicrhau bod ein gwasanaethau yn rhedeg yn esmwyth ac effeithlon.
Dealltwriaeth o’r gwasanaethau y mae’r GIG yn eu darparu, er mwyn gallu cynnig y cyngor a’r arweiniad gorau i ddefnyddwyr ein gwasanaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11.59yh ar ddydd Iau 4ydd o Orfennaf 2023. Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal ar ddydd Llun 10fed o Orfennaf.
Mewn cydnabyddiaeth am eich ymroddiad a’ch arbenigedd, byddwch chi’n cael:
Cyflog – Cyflog o £18,972 yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos.
Gwyliau – Byddwch chi’n cael 36 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc) a’r opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau.
Cynllun pensiwn – Rydym yn cynnig hyd at 6% o gyfraniad pensiwn.
Gweithio hyblyg – Byddwn ni’n gwneud yr hyn a allwn ni i sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd sy’n addas i chi.
Cyfleoedd Dysgu a Datblygu – Rydym yn un o elusennau mwyaf y DU ac mae gennym ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd cynhwysfawr i staff ddatblygu eu hunain.
Disgowntiau – Bydd gennych fynediad at ddisgowntiau gwych drwy’r Cerdyn Disgownt Golau Glas a’n platfform buddion cyflogeion ein hunain.
Cefnogaeth Lles – Lles staff yw’r flaenoriaeth bob amser. Bydd gennych fynediad at gymorth iechyd meddwl a llesiant.
Gweithio fel Tîm – Byddwch chi’n gweithio fel rhan o dîm sy’n cefnogi ein cenhadaeth o helpu pobl mewn argyfwng.
Beicio i’r Gwaith – Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn eich galluogi i logi beic.
Benthyciad tocyn tymor – Rydym yn cynnig benthyciad di-dâl i brynu tocyn tymor ar gyfer teithio rhwng y cartref a’r gwaith.
Yn Y Groes Goch Brydeinig, rydym yn ymfalchïo yn ein gweithlu amrywiol, ac yn sicrhau bod gennym amgylchedd cynhwysol ar gyfer ein holl staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn parhau i ymrwymo i sicrhau bod ein timoedd yn gallu dod â’u hunaniaethau go iawn i’r gwaith heb risg neu ofn o wahaniaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy adrodd data’n rheolaidd, a chefnogaeth fewnol gan ein Rhwydwaith Hil a Chydraddoldeb (REEN) mewnol, Rhwydwaith LGBT+, ein Rhwydwaith Anabledd a Llesiant (DAWN), Rhwydwaith Rhywedd, Rhwydwaith Gofalwyr a Rhwydwaith Ieuenctid.